Ar Hyd y Nos
Clicia yma i ymweld â gwefan y gantores hynod ddawnus o Fôn, Meinir Gwilym. Os nad oes gen ti gopi o ‘Dim Ond Clwydda’ eto, ti’n colli allan…:-)
Holl amrantau’r sêr ddywedant
Ar hyd y nos.
Dyma’r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch,
Teulu’r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos,
I oleuo’i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos,
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i’n gilydd
Ar hyd y nos.
