Calon Lân

Yfwch dros Gymru!

Clicia yma i ymweld â gwefan yr unigryw Siân James - oes gen ti gopi o ‘Pur’? Dylai neb fod hebddi…;-)

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu-
Canu’r dydd a chanu’r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.

Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.

Cliciwch yma i ymweld â gwefan swyddogol Cerys Matthews.

Yfwch dros Gymru!