Yr Anthem Genedlaethol

Yfwch dros Gymru!

Clicia yma i ymweld â gwefan yr unigryw Siân James - oes gen ti gopi o ‘Pur’? Dylai neb fod hebddi…;-)

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Tros ryddid gollasant eu gwaed.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad.
Tra mor yn fur i’r bur hoff bau,
O bydded i’r hen iaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i’m golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad.
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Yfwch dros Gymru!