Moliannwn
Dan ni heb fersiwn o hyn eto! Os wyt ti’n nabod côr byddai’n falch i dynnu bach o sylw at eu hunain, gofyn iddynt recordio’r gân ac unai anfon hi atom ni neu roi fersiwn ar YouTube.com ac anfon y ddolen atom ni. Cyntaf i’r felin…;-) [Ond bydd dolenni i wefannau pawb sy’n rhoi cais arni!]
Nawr lanciau, rhoddwn glod
Mae’r gwanwyn wedi dod
Y gaeaf a’r oerni a aeth heibio;
Daw’r coed i wisgo’u dail
A mwyniant mwyn yr haul
A’r ŵyn ar y dolydd i brancio
Moliannawn oll yn llon
Mae amser gwell i ddyfod
Ha-ha-le-liw-la
Ac ar ôl y tywydd drwg
Fe wnawn arian fel y mŵg
Mae arwyddion dymunol o’n blaenau
Ffwdl la la, ffwdl la la
Ffwdl la la, la la la la
Daw’r robin goch yn llon
I diwnio ar y fron
A cheiliog y rhedyn i ganu
A chawn glywed wiparhwil
A llyffantod wrth y fil
O’r goedwig yn mwmian chwibanu
Fe awn i lawr i’r dre
Gwir ddedwydd fydd ein lle
A llawnder o ganu ac o ddawnsio
A chwmpeini naw neu ddeg
O enethod glân a theg
Lle mae mwyniant y byd yn disgleirio…
