Lisa Lân

Yfwch dros Gymru!

Mae Dafydd Hafod yn boblogaidd iawn fel unawdydd trwy Wynedd gyfan - pe hoffet ofyn i Dafydd ganu mewn digwyddiad, e-bostia ni at dafydd[at]sing4wales.com (paid anghofio rhoi @ yn lle [at]!).

Bum yn dy garu lawer gwaith,
Do lawer awr mewn mwynder maith,
Bum yn dy gusanu Lisa gel
Ac roedd dy gwmni yn well na’r mel

Fy nghangen lan, fy nghowlad glyd,
Tydi yw’r lanaf yn y byd;
Tydi sy’n peri poen a chri,
A thi sy’n dwyn fy mywyd i.

Pan fyddwy’n rhodio gyda’r hwyr,
Fy nghalon fach a dodd fel cwyr,
Wrth glywed swn yr adar man,
Daw hiraeth mawr am Lisa Lan.

Lisa a ddoi di i’m danfon i,
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f’annwyl ffrind,
Hyd lan y bedd lle rwyf yn mynd.

Yfwch dros Gymru!