CanuDrosGymru.com
Noddwyr y wefan yw Bragdy Felinfoel - rwan cei yfed dros Gymru, hefyd! Clicia ar y logo, neu ar www.CanuDrosGymru.com/felinfoel, er mwyn cael £5 oddi ar becyn o 24 Double Dragons…:-) Mwyaf byddi di’n yfed, mwyaf gawn ni ein cefnogi gan Felinfoel, a mwyaf bydd y wefan yn tyfu!
Pwrpas y wefan hon ydy dod â chaneuon Cymraeg at sylw y Cymry di-Gymraeg - ond os bydd yn atgoffa ambell Gymro neu Gymraes am ein hetifeddiaeth gerddorol, gorau’n y byd!
Yn y pendraw, ein gobaith ydy y bydd hyn yn arwain at ganu gwell wrth gefnogi timau Cymru…:-)
Os hoffech weld cân sydd ddim yma, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda ni trwy glicio yn fan hyn er mwyn gofyn i ni ei chynnwys a/neu gynnig trefnu recordiad ohoni eich hunain!
Yn yr un ffordd, rydym bob amser yn falch o glywed unrhyw syniadau am sut i ddatblygu’r wefan hon ymhellach - felly os ydach chi’n meddwl bod rhywbeth amlwg o’i le, neu rywbeth difyr y gallwn ei ychwanegu, byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn cysylltu gyda ni…:-)
