Lleucu Llwyd

Yfwch dros Gymru!

Lleucu Llwyd rwyt ti’n hardd,
Lleucu Llwyd rwyt ti’n werth y byd i mi,
Lleucu Llwyd rwyt ti’n angel,
Lleucu Llwyd rwy’n dy garu garu di.

O! rwy’n cofio cwrdd a thi
Ac rwy’n cofio’r glaw.
Ydi’r eos yn y goedwig?
Ydi’r blodau yn y maes gerllaw?
Yn yr afon mae cyfrinach
Dy gusan cyntaf di
Yn y goedwig mae y blodau
Yn sibrwd dy enw di.

O mae’r oriau mân yn myned
Fel eiliaid ar adain y gwynt;
Os gorweddaf ar fy ngwely
Efallai daw’r freuddwyd yn gynt.
O mae rhywun yn agosau
Mi glywaf wichian y glwyd,
Ac rwy’n nabod sŵn yr esgid
Mae’n perthyn i Lleucu Llwyd.

Yfwch dros Gymru!