Milgi Milgi

Yfwch dros Gymru!

Clicia yma i weld tudalen MySpace y Cowbois Celtaidd, a gweld lle byddant yn codi hwyl nesaf…;-)

Ar ben y bryn mae sgwarnog fach,
Ar hyd y nos mae’n pori;
A’i chefyn brith a’i bola bola gwyn
Yn hidio dim am filgi!

Milgi milgi, milgi milgi,
Rhowch fwy o fwyd i’r milgi!
Milgi milgi, milgi milgi,
Rhowch fwy o fwyd i’r milgi!

Ac wedi rhedeg tipyn tipyn bach
Mae’n rhedeg mor ofnadwy,
Ac un glust lan a’r llall i lawr
Yn dweud ffarwel i’r milgi!

Rol rhedeg sbel mae’r milgi chwim
Yn teimlo’i fod e’n blino,
A gwelir ef yn swp yn swp ar lawr
Mewn poenau mawr yn gwingo…

Ond dal i fynd wna’r swarnog fach,
A throi yn ol i weni,
Gan sboncio’n heini dros y bryn
Yn dweud ffarwel i’r milgi!

Yfwch dros Gymru!