Ar Lan y Môr
Clicia yma i ymweld â gwefan yr unigryw Siân James - oes gen ti gopi o ‘Pur’? Dylai neb fod hebddi…;-)
Ar lan y môr mae rhosys chochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae ‘nghariad inne
Yn cysgu’r nos a choddi’r bore.
Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bum yn siarad gair âm cariad
Oddeutu hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari.
Llawn iawn yw’r môr o swnd a chregyn,
Llawn yw’r wy o wyn a melyn,
Llawn yw’r coed o ddail a blode,
Llawn iawn o gariad ydwyf inne.
Ar lan y môr mae cerrig gleision,
Ar lan y môr mae blodau’r meibion,
Ar lan y môr mae pob rhinweddau,
Ar lan y môr mae nghariad inne.
Cliciwch yma am ddolen i fersiwn offerynol, gan rywun sydd yn amlwg wrth ei fodd!…:-) [Dydy’r sain ddim yn cychwyn yn union syth, ond mae yn iawn.]
