Cwm Rhondda
Dan ni heb fersiwn o hyn eto! Os wyt ti’n nabod côr byddai’n falch i dynnu bach o sylw at eu hunain, gofyn iddynt recordio’r gân ac unai anfon hi atom ni neu roi fersiwn ar YouTube.com ac anfon y ddolen atom ni. Cyntaf i’r felin…;-) [Ond bydd dolenni i wefannau pawb sy’n rhoi cais arni!]
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych teilwng o fy mryd;
Er o’r braidd ‘rwy’n Ei adnabod
Ef uwchlaw gwrthrychau’r byd:
Henffych fore! Henffych fore!
Caf ei weled fel y mae.
Caf ei weled fel y mae.
Rhosyn Saron yw Ei enw,
Gwyn a gwridog, hardd Ei bryd!
Ar ddeng mil y mae’n rhagori
O wrthddrychau penna’r byd ;
Ffrind pechadur! Ffrind pechadur!
Dyma’r llywydd ar y mor.
Dyma’r llywydd ar y mor.
Beth sydd imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio ‘r wyf nad yw eu cwmni
I’w gymharu a’m Iesu Mawr.
O, am aros! O, am aros!
Yn Ei gariad ddyddiau f’oes.
Yn Ei gariad ddyddiau f’oes.
