Sosban Fach
Clicia yma i weld tudalen MySpace y Cowbois Celtaidd, a gweld lle byddant yn codi hwyl nesaf…;-)
Mae bys Mary Ann wedi brifo
A Dafydd y gwas ddim yn iach
Mae’r baban yn y crud yn crio
A’r gath wedi sgrapo Jonni bach.
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
Sosban fach yn berwi ar y tan
A’r gath wedi sgrapo Jonni bach.
Mae bys Mari Ann wedi gwella
A Dafydd y gwas yn ei fedd
Mae’r baban yn y cryd yn ddistaw
A’r gath nawr yn cysgu mewn hedd.
Sosban fawr yn berwi ar y llawr,
Sosban fach yn berwi ar y tan
A’r gath nawr yn cysgu mewn hedd.
A dyma fersiwn operatig!
